Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd
Mae penodi Rhag Is-ganghellor (Dyfodol y Campws) yn gam mawr i helpu Prifysgol Caerdydd i gyflawni ei strategaeth sefydliadol, Ein dyfodol, gyda’n gilydd.
Cenhadaeth Prifysgol Caerdydd yw cyd-greu a rhannu gwybodaeth newydd sy’n gwella’r byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae ein strategaeth yn datblygu ein cryfderau, ein gwerthoedd a’n partneriaethau i greu Prifysgol fyd-eang sy’n rhagori o ran ymchwil ac addysg, ac yn cael effaith drawsnewidiol ar Gymru, y DU a’r byd.
Bydd Rhag Is-ganghellor (Dyfodol y Campws) yn ganolog wrth ddarparu arweinyddiaeth i’n cymuned academaidd wrth i ni lunio’r seilwaith ffisegol, digidol a sefydliadol sydd ei angen i gyflawni ein dyheadau. Mae hyn yn cynnwys arwain rhaglenni sy’n moderneiddio’r ystad, yn cryfhau gallu digidol, yn galluogi arloesi academaidd, ac yn gwella profiad cyffredinol y myfyrwyr, y staff a phartneriaid.