English     |      Cymraeg

Prifysgol Caerdydd

Croeso

 

Er mwyn cefnogi ac adeiladu ar ein henw da am ragoriaeth ymchwil, rydym yn ceisio denu ymgeiswyr rhyngwladol sy’n byw ac yn gweithio y tu allan i’r DU ar hyn o bryd (am o leiaf y 24 mis diwethaf), fel rhan o’n dyraniad o fenter Cronfa Dalent Byd-eang Llywodraeth y DU.

 

I gyflymu ein harweinyddiaeth ymchwil yn y maes strategol allweddol Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Diwydiannau Creadigol, rydym yn dymuno penodi Athro yn unol â’r maes cyfatebol yn strategaeth ddiwydiannol y DU.

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi sefydlu ei hunain yn gadarn yn ei maes/faes, ac yn meddu ar bortffolio sylweddol o ymchwil, ynghyd â hanes profedig o gyhoeddi ac ennill grantiau ymchwil, a chydnabyddiaeth genedlaethol neu ryngwladol yn ei maes/faes ymchwil dewisol. Yn bwysig, bydd ganddynt y gallu i yrru meysydd o ymchwil ac arloesi sydd wedi’u halinio â’r strategaeth ddiwydiannol, ar y cyd â phartneriaid allanol a disgyblaethau eraill.

 

Mae’r rôl hon yn gyfle i gael dylanwad uniongyrchol a pharhaol ar genhadaeth Prifysgol Caerdydd i gyd-greu a rhannu gwybodaeth newydd er mwyn darparu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae ein strategaeth, Ein dyfodol, gyda’n gilydd’, yn adeiladu ar ein hanes, ein gwerthoedd, ein cryfderau, ein hadnoddau a’n rhwydweithiau i wireddu ein cynlluniau a’n blaenoriaethau uchelgeisiol. Ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol fyd-eang sy’n arwain y byd, yn rhagorol o ran ymchwil ac addysg, ac sy’n creu effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd drawsnewidiol yng Nghaerdydd, Cymru, y DU a’r byd.

 

Os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau, yr angerdd a’r ysgogiad i ateb yr her hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Welcome from Roger Whitaker