English     |      Cymraeg

Prifysgol Caerdydd

Athro Talent Byd-eang mewn Diwydiannau Creadigol

 

Cyflog yn yr ystod £77,711 i £115,474, yn dibynnu ar brofiad.
Mae’r swydd hon yn llawn amser ac yn un cyfnod penodol tan 30 Medi 2030.

 

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amgylchedd lle gall ymchwilwyr uchelgeisiol wirioneddl ragori. Fel rhan o sefydliad blaenllaw y Grŵp Russell, byddwch yn elwa ar gyfleusterau o’r radd flaenaf, rhwydweithiau rhyngddisgyblaethol cryf, a diwylliant sy’n hyrwyddo ymchwil ddwys, ddychmygus. Rydym yn buddsoddi mewn cryfderau sy’n dod i’r amlwg ac yn meithrin cydweithrediadau sy’n gwthio ffiniau ac yn darparu atebion i heriau byd-eang.

 

Mae Prifysgol Caerdydd yn gyrru ecosystem diwydiannau creadigol sy’n dod yn fwyfwy bywiog, gan rymuso arloesedd gyda dylanwad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd trawsnewidiol ledled Cymru a thu hwnt. Dan arweiniad y Ganolfan ar gyfer yr Economi Greadigol a thrwy fentrau fel Clwstwr a cydweithrediad gyfa Media Cymru, mae’r Brifysgol yn cyflymu datblygiad clwstwr creadigol bywiog sydd wedi’i adeiladu ar ymchwil rhyngddisgyblaethol, creadigrwydd digidol, a chyd-greu dwfn â diwydiant, cymunedau a sefydliadau diwylliannol.

 

Mae’r ecosystem hon yn meithrin mwy na 6,000 o greadigwyr drwy rwydwaith Creative Cardiff ac yn gosod y rhanbarth fel canolfan fyd-enwog ar gyfer y cyfryngau, y sgrin, a’r diwydiannau creadigol ehangach. Gyda chryfderau mewn rhaglenni arloesedd ar raddfa fawr, mae Caerdydd yn cynnig amgylchedd eithriadol i academyddion sy’n awyddus i lunio dyfodol ymarfer a pholisi creadigol, gyrru effaith sector-eang, a chyfrannu at dwf cynaliadwy economi greadigol Cymru – a’r DU.

 

Mae datblygiad eich gyrfa yn ganolog i’n cenhadaeth. Yng Nghaerdydd, bydd gennych fynediad at gymorth wedi’i deilwra, mentora, a chyfleoedd i weithio gyda phartneriaid ar draws diwydiant, y llywodraeth a’n cymunedau. Mae ein diwylliant gydweithredol yn gwerthfawrogi gwreiddioldeb, yn annog arbrofi, ac yn cydnabod yr effaith y gall ymchwil ei chael ar gymdeithas. Dyma le lle gall eich syniadau ffynnu a lle gall eich gyrfa gyrraedd ei llawn botensial.

 

Mae manylion llawn y rôl, gan gynnwys prif gyfrifoldebau a dyletswyddau, ynghyd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd, ar gael yn y Pecyn Gwybodaeth y gellir ei lawrlwytho isod.

Dogfennau

Pecyn Gwybodaeth

Download

Prif ddyletswyddau

Download