Athro ym maes Lled-ddargludyddion Cyfanswadd
Cyflog yn yr ystod £77,711 i £135,297, yn ddibynnol ar asesiad band cyflog athrolegol
Mae’r swydd hon yn llawn amser ac yn un cyfnod penodol tan 30 Medi 2030.
Caiff y posibilrwydd o gytundeb parhaol ei ystyried gyda darpar ymgeiswyr addas, lle bo hynny’n briodol i’r rôl. Byddai unrhyw drefniadau o’r fath yn destun trafodaeth a chytundeb yn ystod y broses recriwtio.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amgylchedd lle gall ymchwilwyr uchelgeisiol wirioneddl ragori. Fel rhan o sefydliad blaenllaw y Grŵp Russell, byddwch yn elwa ar gyfleusterau o’r radd flaenaf, rhwydweithiau rhyngddisgyblaethol cryf, a diwylliant sy’n hyrwyddo ymchwil ddwys, ddychmygus. Rydym yn buddsoddi mewn cryfderau sy’n dod i’r amlwg ac yn meithrin cydweithrediadau sy’n gwthio ffiniau ac yn darparu atebion i heriau byd-eang.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i un o ganolfannau blaenllaw Ewrop ar gyfer ymchwil yn y maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan gynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf ac ecosystem fywiog, sy’n gysylltiedig â’r diwydiant ac sy’n gyrru arloesi o ddarganfyddiad sylfaenol i gyflwyno masnachol. Gyda’r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi’i ymgorffori o fewn Campws Arloesedd £300M y Brifysgol, mae ymchwilwyr yn elwa ar ystafelloedd glân blaengar, siwtiau nodweddu uwch, a chydweithredu agos â phrif bartneriaid diwydiant megis IQE, Microchip, SPTS Technologies, a Newport Wafer Fab.
Mae arbenigedd Caerdydd yn ymestyn o dwf epitacsial, deunyddiau lled-ddargludyddion, dyfeisiau amledd uchel, a dylunio cylchedau datblygedig, i opto-electroneg, gan osod y Brifysgol ar flaen y gad mewn technolegau sy’n pweru 5G, systemau cwantwm, cerbydau ymreolaethol, a chyfathrebu’r genhedlaeth nesaf. Fel y prif bartner mewn mentrau gwerth miliynau o bunnoedd megis Canolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd EPSRC, a’r Ganolfan Hyfforddi Doethurol ar gyfer Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, mae Caerdydd yn cynnig amgylchedd digyffelyb i academyddion uchelgeisiol sy’n awyddus i lunio dyfodol arloesi lled-ddargludyddion byd-eang.
Mae datblygiad eich gyrfa yn ganolog i’n cenhadaeth. Yng Nghaerdydd, bydd gennych fynediad at gymorth wedi’i deilwra, mentora, a chyfleoedd i weithio gyda phartneriaid ar draws diwydiant, y llywodraeth a’n cymunedau. Mae ein diwylliant gydweithredol yn gwerthfawrogi gwreiddioldeb, yn annog arbrofi, ac yn cydnabod yr effaith y gall ymchwil ei chael ar gymdeithas. Dyma le lle gall eich syniadau ffynnu a lle gall eich gyrfa gyrraedd ei llawn botensial.
Mae manylion llawn y rôl, gan gynnwys prif gyfrifoldebau a dyletswyddau, ynghyd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd, ar gael yn y Pecyn Gwybodaeth y gellir ei lawrlwytho isod.