Croeso
Gyda chyfle i gael effaith gadarnhanol barhaol ar ddysgwyr, cyflogwyr, a’r dirwedd addysg drydyddol ehangach, bydd y Cyfarwyddwr yn arwain datblygiad gwasanaeth trawsnewidiol sy’n ehangu ein portffolio dysgu ystwyth, yn sbarduno ffrydiau incwm newydd, ac yn cryfhau ein cyrhaeddiad byd-eang. Drwy adeiladu partneriaethau strategol a lansio cynigion arloesol, bydd y Cyfarwyddwr yn gosod y Brifysgol mewn sefyllfa dda wrth i ni esblygu tuag at ddarpariaeth sy’n “hyblyg yn ddiofyn” – yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn ymatebol i ofynion rheoleiddio a marchnad sy’n esblygu.
Cenhadaeth Prifysgol Caerdydd yw cyd-greu a rhannu gwybodaeth newydd er mwyn creu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae ein strategaeth, ‘Ein dyfodol, gyda’n gilydd’, yn adeiladu ar ein hanes, ein gwerthoedd, ein cryfderau, ein hadnoddau a’n rhwydweithiau i gyflawni ein cynlluniau a’n blaenoriaethau uchelgeisiol. Ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol sy’n arwain yn fyd-eang, sy’n rhagorol o ran ymchwil, ac sy’n rhagorol yn addysgol, gydag effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd drawsnewidiol ar Gaerdydd, Cymru, y DU a’r byd.
Gan adrodd i Brif Swyddog Gweithredu’r Brifysgol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, mae rôl Cyfarwyddwr Dysgu Hyblyg Gydol Oes yn gyfle arweinyddiaeth newydd cyffrous i lunio dyfodol dysgu gydol oes hyblyg yn y Brifysgol.
Os ydych chi’n teimlo bod gennych chi’r sgiliau, y brwdfrydedd a’r ysgogiad i wynebu’r her hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Mae manylion llawn y rôl a’r cyfrifoldebau wedi’u nodi yn y disgrifiad swydd.