English     |      Cymraeg

Cyfarwyddwr Dysgu Hyblyg Gydol Oes

Cefndir

Mae Dysgu Gydol Oes Hyblyg yn ddatblygiad arwyddocaol i Brifysgol Caerdydd wrth i ni ddechrau gwireddu ein strategaeth newydd Ein dyfodol, gyda’n gilydd.

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i greu Sefydliad Dysgu Hyblyg Gydol Oes a fydd yn dod â’r wybodaeth a’r arbenigedd yn y Brifysgol ynghyd. Bydd yn cefnogi timau academaidd i ddatblygu a chyflwyno gwasanaeth dysgu gydol oes hyblyg newydd ac ehangach gan arwain at amrywio ein ffrydiau incwm a thyfu rhai newydd, yn ogystal ag ehangu darpariaethau’r Brifysgol i ystod ehangach o ddysgwyr. Bydd ein portffolio o ddarpariaeth hyblyg yn y dyfodol yn hynod ddeniadol, yn broffesiynol ac yn ysgogi chwilfrydedd ein cwsmeriaid a’n partneriaid, a byddwn yn cynnig profiad di-dor i’n dysgwyr hyblyg drwy ddulliau a modelau cyflenwi newydd.

Byddwn ni’n ystyried rhaglenni meistr hyblyg newydd a microgymwysterau y gellir eu pentyrru, yn ogystal â chyrsiau byr heb eu hachredu a fydd yn ategu rhaglenni ar y campws a datblygiadau Addysg Drawswladol. Bydd ymgyrch newydd i ddatblygu darpariaeth cwbl ar-lein – mewn partneriaeth â sefydliadau allanol i gyrraedd marchnadoedd newydd, gan hefyd gynyddu ein datblygiad proffesiynol parhaus wyneb yn wyneb i ddysgwyr unigol a thrwy bartneriaethau newydd ac ehangach gyda sefydliadau’r diwydiant a’r sector cyhoeddus. Bydd y cynigion ystwyth hyn yn ein galluogi i ddangos dylanwad ein hymchwil yn well a manteisio ar ffrydiau incwm newydd.