English     |      Cymraeg

Cyfarwyddwr Dysgu Hyblyg Gydol Oes

Y Rôl

Cyfarwyddwr Dysgu Hyblyg Gydol Oes
£95,288-£113,880

Dyma benodiad newydd i arwain y gwaith o sefydlu a datblygu’r gwasanaeth newydd a fydd yn trawsnewid ymagwedd y Brifysgol tuag at ddarpariaeth dysgu gydol oes hyblyg drwy’r canlynol:

  • Datblygu ac arwain strategaeth gynhwysfawr i dyfu portffolio dysgu gydol oes hyblyg y Brifysgol, gyda phwyslais ar gynhyrchu ffrydiau incwm newydd ac amrywiol drwy ddarpariaeth cynaliadwy y gellir ei hehangu
  • Nodi a datblygu cyfleoedd busnes newydd, adeiladu partneriaethau gyda diwydiant a thrydydd partïon eraill, a lansio cynigion hyblyg newydd i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr (a hynny’n fyd-eang) gan gyd-fynd â mentrau Addysg Drawswladol (TNE) newydd y Brifysgol
  • Defnyddio tueddiadau’r farchnad, dadansoddiad cystadleuol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod cynigion y Brifysgol yn fasnachol hyfyw ac yn effeithiol ar gyfer ystod eang o ddysgwyr
  • Darparu cyngor lefel uchel i aelodau Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, Deoniaid Addysg Colegau ac uwch staff eraill y Brifysgol ar ofynion rhaglenni gydol oes hyblyg o ansawdd uchel a’r broses o’u darparu

Mae manylion llawn am y rôl, gan gynnwys y prif ddyletswyddau, dimensiynau’r rôl, perthnasoedd mewnol ac allanol, a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl wedi’u cynnwys yn y Pecyn Gwybodaeth ar gyfer y rôl y gellir ei lawrlwytho isod.

Dogfennau

Pecyn Gwybodaeth

Download